Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Mawrth 2019
Amser:
13.15 -
16.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5272
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Joe Teape, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Richard Archer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Steve Curry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Lisa Dunsford, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Sherard Lemaitre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Stephen Lisle Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
2.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Joe Teape, y Dirprwy Brif Weithredwr a Richard Archer, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
3.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Steve Curry, y Prif Swyddog Gweithredu; Lisa Dunsford, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol, a Dr Sherard Lemaitre, Meddyg Teulu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
3.2 Cytunodd Steve Curry i anfon rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:
· Nifer yr achosion lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi talu cyfraddau uwch i feddygon teulu wneud sifftiau y tu allan i oriau ar fyr rybudd yn ystod y deuddeg mis diwethaf
· Nifer yr hawliadau iawndal a dalwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon a oedd yn ymwneud â chwynion yn erbyn y gwasanaeth y tu allan i oriau
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.